Cerddoriaeth Siambr Cymru
Cerddoriaeth Siambr Cymru
Mae Cerddoriaeth Siambr Cymru yn ffocws newydd I Ensemble Cymru. Mae'n rhan o gynllun fydd yn gweld yr Ensemble yn mynd â cherddoriaeth siambr I nifer cynyddol o bobl a chymunedau ar draws Cymru ac ymhellach I ffwrdd. Bydd Cerddoriaeth Siambr Cymru yn golygu dewis o o leiaf un darn yn
ein rhaglenni a fydd yn cynrychioli agwedd neu agweddau o ddiwylliant neu hanes Cymru. Bydd cynulleidfaoedd yn dal I allu mwynhau ystod eang o gerddoriaeth ond
gyda dyfnder y gall naratif ychwanegu at raglen.
Mae'r rhaglen yn cynrychioli 6 mis o gynllunio a llawer iawn o waith caled ond mae wedi bod yn daith ddiddorol dros ben. Gobeithio y gwnewch chi
gytuno bod y tymor cyntaf gyda'r cysyniad newydd hwn yn un o'r rhai mwyaf diddorol
mae'r ensemble wedi'I gyflwyno hyd yn hyn. Rydym wedi ychwanegu sgyrsiau cyn sawl cyngerdd er
mwyn rhoi mewnwelediad ychwanegol I'r gerddoriaeth yn y cyngerdd.
Gobeithio y byddwch chi'n ymuno â ni ar ddechrau'r daith hon a byddwch yn mwynhau
bod yn rhan o stori'r ensemble wrth iddo barhau I ddatblygu. Peidiwch ag anghofio
I'n helpu cadw mewn cysylltiad wrth glicio 'Rhestr Bostio' I fyny ar dde'r sgrin. Byddwn yn ddiolchgar
pe bai modd I chi annog eich cyfeillion I'w wneud hefyd.
Edrychaf ymlaen at eich croesawu I'n perfformiadau yn ystod y misoedd I ddod.
Gyda dymuniadau gorau
Peryn Clement-Evans
Cyfarwyddwr Artistig Hydref2008
|
Cliciwch isod i ymuno â’n rhestr bostio
Dyddiadur
|
|
10/03/2010 Y Brithyll - Rydal Penrhos(Bae Colwyn)
Amser:7:30 PM Am y Rhaglen:Yn syml, mae Pumawd y Gleisiad yn dangos Darllenwch ragor
|
|
11/03/2010 Y Brithyll - Prif Adeilad y Celfyddydau(Bangor)
Amser:8:00 PM Am y Rhaglen:Yn syml, mae Pumawd y Gleisiad yn dangos Darllenwch ragor
|
|
11/03/2010 Y Brithyll - Venue Cymru(Llandudno)
Amser:10:30 AM Am y Rhaglen:Yn syml, mae Pumawd y Gleisiad yn dangos Darllenwch ragor
|
Newyddion