a | A
Ensemble Cymru, Ysgol Cerddoriaeth, Prifysgol Cymru, Bangor, LL57 2DG : 01248 383 257 : info@ensemblecymru.co.uk

Amdanom Ni

sd

"Yn rhannu ein brwdfrydedd dros gerddoriaeth siambr fyw"

Sefydlodd yr Ensemble gylch perfformio sy'n cynnwys 8 lleoliad led led gogledd Cymru.  Mae'r 8 yn cynnwys lleoliadiau o Gaergybi i Wrecsam ac o Landudno i Bwllheli. Perfformir rhaglenni amrywiol yn fisol yn y canolfannau hyn. 

Bydd cyfle i ysgolion a chymunedau yn nhalgylch pob neuadd berfformio i ddod a'u plant a'u pobl ifanc i glywed perfformiadau gan  gerddorion yr Ensemble.

Y CERDDORION 

Dyma rai o gerddorion yr Ensemble 

Cyfarwyddwr Artistig - Peryn Clement-Evans

Baswn - Emma Harding, Llinos Owen
Bas Dwbl - Richard Lewis
Clarinét - Peryn Clement-Evans
Corn Ffrengig - Nicholas Smith
Feiolin - Eyal Kless, Martin Owen
Fiola - Oliver Wilson
Ffliwt - Jonathan Rimmer
Obo - Huw Clement-Evans
Offerynnau Taro - Dewi Ellis Jones
Piano - Harvey Davies
Sacsoffon - Gerard McChrystal
Sielo - Heather Bills
Telyn - Deian Rowlands

UCHAFBWYNTIAU (2006 - 2007)

  • Perfformiodd yr Ensemble sioe newydd o straeon gan Beatrix Potter gan gyflwyno offerynnau'r gerddorfa trwy gyfrwng y Gymraeg i dros 3000 o blant
  • Perfformiadau gan y delynores, Catrin Finch a'r offerynwraig Daro, Evelyn Glennie
  • Cerddorfa ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol yn yr Wyddgrug
    Gwelwyd eitem am yr Ensemble ar y rhaglen 'Working Lunch' (BBC 2)
  • 122 o ddigwyddiadau cerddoriaeth fyw i dros 13,000 o bobl yn ystod 2006-2007
  • Darllediad am yr Ensemble ar BBC Radio 3

LLWYDDIANNAU

  • Cyrraedd rhestr fer y tri grwp gorau yn y DU yng Ngwobrau Cerddoriaeth y Gymdeithas Ffilharmonig Frenhinol 2006
  • Llysgenhadon ar gyfer cerddoriaeth gyfoes glasurol Gymreig yn Efrog Newydd, UDA, fel rhan o 'Wythnos Cymru yn Efrog Newydd' yn 2006.
  • Ennill Gwobr Genedlaethol Celf a Busnes Cymru yn 2003 am ein gwaith gyda busnesau yng Nghymru.

YMDDIRIEDOLWYR


Llywodraethir yr elusen gan wyth ymddiriedolwr gwirfoddol ar unrhyw adeg.  Fe'u rheolir gan Gyfarwyddwr Artistig, Unig Weithredwr a phrif glarinetydd yr Ensemble, Peryn Clement-Evans. 

Gellir lawrlwytho adroddiadau oddi ar safle we'r Comisiwn Elusennau (www.charitycommission.gov.uk )

PRESWYLIAETHAU
Gwyl Fama (Gwyl o Gerddoriaeth a Chelfyddyd)
www.gwylfama.org.uk

Gwyl Cerddoriaeth Ryngwladol Gogledd Cymru
www.northwalesmusicfestival.co.uk

Prifysgol Bangor
www.bangor.ac.uk

Ysgol Rydal-Penrhos
www.rydal-penrhos.co.uk