Chwaraewch Ran

asasdd
Gwelir fod niferoedd y bobl sy'n cynorthwyo'r Ensemble i ddwyn cerddoriaeth fyw i drigolion o bob oed led led Cymru yn cynyddu. Os carech chi wneud gwahaniaeth i fywydau pobl dyma'r hyn y gallech chi ei wneud: Rhoddion Gydag archeb barhaol (fisol neu flynyddol) bydd eich cyfraniad yn sicrhau ein llwyddiant parhaol a'n bodolaeth ni fel Ensemble, hyd yn oed. Trwy gynllun 'Cymorth Rhodd' gellir sicrhau fod y dreth yr ydych yn ei dalu ar eich incwm yn mynd i'r man y dymunwch iddo fynd. Gellir rhoi cyfraniadau a bydd rhodd sylweddol drwy gyfrwng eich ewyllys yn sicrhau y bydd cenhedlaethau'r dyfodol yn gallu parhau i brofi cyfoeth cerddoriaeth siambr fyw. Dyma un o'r pethau pwysicaf y gellwch chi ei wneud drosom ni ar hyn o bryd, yn enwedig gan fod y Gemau Olympaidd yn cael cymaint o effaith ar arian y Loteri. Llety Os ydych chi'n byw yng ngogledd Cymru ac yn meddwl y carech chi gynnig gwely a brecwast i'n cerddorion, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda. Dyma gyfle i ddod i adnabod ein cerddorion ac ar yr un pryd sicrhau bod adnoddau gwerthfawr yn dod â cherddoriaeth fyw i gymunedau ar draws gogledd Cymru. Cysylltwch â ni er mwyn ychwanegu eich enw ar y rhestr o bobl sydd yn manteisio ar gyfleodd i ddod i adnabod ein cerddorion yn well. Cyfarfod a Chyfarch Trwy wirfoddoli i fod yn stiward yn ein cyngherddau gellwch glywed cyngherddau yn rhad ac am ddim ac ar yr un pryd, byddwch yn ymwybodol eich bod chi'n cynorthwyo yn y gwaith o ddarparu profiad cyfeillgar a chroesawgar i'n cynulleidfaoedd. Anfonwch nodyn i ddweud ym mha leoliad y carech chi wirfoddoli.
Diolch o galon i chi, John Mason Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr
LK Test - Monday 12 May 2008
|